Roedd Adref yn Ddiogel Rhyddhau Cleifion yn Effeithiol o’r Ysbyty yn tynnu sylw at 16 achos lle’r oedd ysbytai Cymru wedi methu wrth ryddhau cleifion.

Canfu’r adroddiad enghreifftiau o’r canlynol:

  • Dim digon o ymwneud gan uwch feddygon ac ymgynghorwyr yn y broses ryddhau
  • Diffyg cyfathrebu effeithiol mewn ysbytai a rhyngddynt a gyda gwasanaethau cymunedol
  • Diffyg cynllunio effeithiol wrth ryddhau cleifion
  • Diffyg trefn effeithiol wrth ofalu am gleifion a’u rhyddhau
  • Methiant i gynnwys aelodau priodol o’r teulu yn y broses rhyddhau

Er i’r Ombwdsmon ddweud nad oedd yn teimlo bod yr achosion yn nodweddiadol o’r gwasanaethau a ddarperir gan y GIG yng Nghymru, fe ddywedodd ei fod yn bwysig bod gwersi’n cael eu dysgu o’r achosion.

Mae wedi awgrymu nifer o feysydd i’w hystyried yn y dyfodol gan gynnwys hyfforddiant i staff meddygol, uwch feddygon yn rhan o’r broses ryddhau lle bo hynny’n briodol, cyfathrebu gwell rhwng sefydliadau gofal sylfaenol a gofal eilaidd ac o’u mewn, ac asesiadau priodol i roi’r claf wrth galon y broses ryddhau.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett:

“Mae gadael yr ysbyty yn gallu bod yn broses anodd ac emosiynol i glaf, ac mae’n hollbwysig bod rhyddhau o’r ysbyty yn cael ei gyflawni’n ddiogel a bod y canllawiau cywir yn cael eu dilyn.

“Mae’r achoson yn fy adroddiad, er nad ydynt yn nodweddiadol o’r gwasanaeth a geir yn feunyddiol yn ein hysbytai, yn frawychus, ac wedi arwain at ddioddef diangen.

“Byddwn yn annog pob bwrdd iechyd i ddarllen yr adroddiad hwn a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu fel na fydd yn rhaid i gleifion eraill ddioddef yr un profiad.”