Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, bod Mr B (Di-enw) wedi dioddef y sarhad o fyw mewn cyflwr o unigedd, gan atal y byd a chyda ansawdd bywyd cyfyngedig, o ganlyniad i oediadau hir gan arbenigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Gwnaeth Mrs A (Di-enw) y gŵyn ar ran ei mab. Dywedodd y gwelodd ei mab yn brwydro i weithredu o fewn y gymdeithas am nifer o flynyddoedd, a’i fod wedi suddo i iselder dyfnach, wedi ceisio hunanladdiad ac yn byw mewn unigedd llwyr.

Mewn anobaith llwyr, dywedodd Mrs A iddi fynd â Mr B i’r Tîm Argyfwng ym Mai 2015 gan feddwl y byddai ef yn derbyn y gefnogaeth rheidiol, ond roedd oedi hir a pharhaus yn ei asesiadau anhwylder sbectrwm awtistaidd (ASA) a gwblhawyd dwy flynedd yn ddiweddarach, ym Mai 2017.

Canfu’r Ombwdsmon bod arfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o gyfeirio cleifion sydd angen asesiadau ASA ac iechyd meddwl i un tîm ar y tro yn groes i ganllaw proffesiynol ac arfer clinigol da, ac y gallai hawliau dynol Mr B o dan erthygl 8 fod wedi’u cyfaddawdu fel canlyniad i’r methiannau canfyddadwy yn yr adroddiad.

Nododd bod yr oedi yn asesiad ASA Mr B wedi’i achosi’n rhannol gan ganslad y Bwrdd Iechyd o nifer o gyfarfodydd oherwydd prinder staff, ac yn rhannol gan gyfyngiadau adnoddau nad oedd yn caniatáu i drefniadau eraill gael eu gwneud.

Er i Mr B godi pryderon am ei iechyd meddwl ac am wrthiselyddion aneffeithiol, ni chymerodd y Bwrdd Iechyd unrhyw gamau.

 

Yn rhoi sylw ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Nid yw arfer y Bwrdd Iechyd o beidio cyfeirio cleifion am asesiadau iechyd meddwl ac ASA ar yr un pryd, yn dderbyniol, ac mae’n methu i ddiwallu anghenion rhai o’r unigolion mwyaf bregus ein cymdeithas.

“Ni ddylid gadael unrhyw glaf i deimlo unigedd fel hyn, ac mae’n amlwg y canfuwyd y Bwrdd Iechyd yn ddiffygiol, pan roedd Mr B angen cymorth fwyaf.

“Rwy’n falch bod Cwm Taf wedi cytuno i adolygu ei arfer cyfredol, a gobeithiaf y bydd yn sicrhau bod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch yn y dyfodol.”