Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ombwdsmon ar gyfer 2017/18 yn dangos bod cwynion yn erbyn cyrff GIG (sy’n cynnwys Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Meddygol teulu a deintyddion) wedi cynyddu 7% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol – gan godi o 863 i 927.

Cododd cwynion ynghylch Byrddau Iechyd 11%, gyda chynnydd mawr yn y cwynion a dderbyniwyd ynghylch Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (cynnydd o 29%) ac Aneurin Bevan (cynnydd o 34%). Tra disgynnodd nifer y cwynion am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gymedrol o 3%, eto fe gynhyrchodd 186 o gwynion, y nifer uchaf o unrhyw Fwrdd Iechyd yng Nghymru. Roedd gostyngiadau bach yn nifer y cwynion am gyrff GIG eraill megis Meddygon Teulu a Deintyddion.

Mewn cyfanswm, derbyniodd yr Ombwdsmon 2,253 o gwynion, 2% yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Mae’r gostyngiad hwn yn cael ei briodoli’n bennaf i ostyngiad o 10% mewn cwynion ynghylch gwasanaeth awdurdodau lleol. Fodd bynnag, cynyddodd cwynion bod cynghorwyr lleol wedi torri eu cod ymddygiad o 14%.

Yn ddiweddar, cytunodd Aelodau’r Cynulliad i gymeradwyo’r egwyddorion cyffredinol o ddeddfwriaeth newydd a fydd yn rhoi pwerau blaenllaw i’r Ombwdsmon a’i alluogi i ymchwilio’r elfen gofal iechyd preifat o gwynion sy’n cynnwys cymysgedd o ofal iechyd cyhoeddus a phreifat.

Dywedodd Nick Bennet, Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r cynnydd graddol yn nifer y cwynion iechyd yn bryder gwirioneddol ac maent bellach yn cyfrif am fwy na 40% o gyfanswm llwyth achos fy swyddfa.

“Mae llawer o gwynion gofal iechyd yn gymhleth, yn sensitif ac yn arwyddocaol, yn aml yn cynnwys niwed neu farwolaeth aelod o’r teulu. Maent yn aml yn cymryd mwy o amser i ymchwilio na chwynion eraill oherwydd difrifoldeb y materion sy’n cael eu codi a’r angen am gyngor clinigol.

“Pan fydd fy swyddfa yn darganfod anghyfiawnder, rydym yn disgwyl i gyrff ymgymryd â’r dysgu o fy ymchwiliadau – Dim ond os gwneir hwy hyn y byddwn yn debygol o atal llif y cwynion.

“Yn fwy cyffredinol, rwy’n falch o weld lleihad bach yn y cyfanswm o gwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, gyda gostyngiad o 10% mewn cwynion am lywodraeth leol.

“Rwy’n gobeithio y bydd safonau’r gwasanaeth yn cael eu cynnal a bod y gwelliannau yn parhau’r flwyddyn nesaf.”