Yn 2017, cwynodd Mr D (dienw) i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ei fod wedi cael Hysbysiad Treth Gyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a oedd yn cynnwys gwallau yn y fersiwn Cymraeg am y drydedd flynedd o’r bron. Dywedodd ei fod wedi rhoi cyfle i’r Cyngor fynd i’r afael â’r broblem yn 2014 a bob blwyddyn ers hynny.

Dywedodd y Cyngor wrth yr Ombwdsmon y byddai’n cywiro’r broblem erbyn blwyddyn ariannol 2018/19, ond mae Mr D wedi cael Hysbysiad Treth Gyngor â’r un gwallau ynddo unwaith eto.

Mae’r Ombwdsmon wedi cymryd y cam eithriadol o gyhoeddi adroddiad arbennig[i] ar y mater, gan nad ydy’r Cyngor wedi cymryd y camau gweithredu y cytunodd arno â’r Ombwdsmon. Dim ond unwaith o’r blaen mae Nick Bennett, yr Ombwdsmon cyfredol, wedi cymryd y cam hwn ers cael ei benodi yn 2014.

Mae Comisiynydd y Gymraeg eisoes wedi dyfarnu yn erbyn y Cyngor[ii] ar ôl ymchwilio i fethiant y Cyngor i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ei archebion tâl Treth Gyngor yn 2017. Rôl y Comisiynydd ydy sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â safonau o’r fath, a rôl yr Ombwdsmon ydy delio â chwynion ynghylch camweinyddu.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae wedi fy siomi’n ddifrifol fod Cyngor Wrecsam wedi methu cywiro’r camgymeriadau hyn a chymryd y camau gweithredu angenrheidiol yr oedd wedi eu haddo. Mae hyn yn dangos diffyg parch tuag at yr iaith Gymraeg ac at yr aelodau o’r cyhoedd mae’n eu gwasanaethu.

“Roedd y Cyngor wedi rhoi’r argraff i Mr D mai mater dibwys oedd ei gŵyn, ac rydw i’n ofni mai unig bwrpas ei gytundeb gwreiddiol â mi oedd osgoi ymchwiliad.

“Dyma’r ail dro yn unig rydw i wedi gorfod cyhoeddi adroddiad arbennig yn erbyn corff cyhoeddus yng Nghymru, ond mae’n hollbwysig fod y Cyngor yn cael ei ddal yn atebol am ei weithrediadau. Byddaf yn monitro’r sefyllfa i sicrhau cydymffurfiad.”

Bellach, mae’r Cyngor wedi cytuno i nifer o argymhellion ychwanegol a wnaed gan yr Ombwdsmon. Ymysg y rhain mae anfon ymddiheuriad ysgrifenedig at Mr D, talu iawndal o £100 am yr anghyfiawnder a wnaed ag ef, sefydlu proses ysgrifenedig a ffurfiol ynghylch yr hysbysiad blynyddol, a sicrhau bod pob dogfen berthnasol yn cael ei hanfon at ei bartneriaid cyfieithu allanol i’w hadolygu.

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd

________________________________________
[i] Dan ddarpariaethau Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, yn unol ag adran 3, mae’r Ombwdsmon yn gallu cymryd camau y mae’n eu hystyried yn briodol i ddatrys cwyn yn hytrach nag ymchwilio iddi. Gall hyn gynnwys cytuno â chorff perthnasol y bydd yn cymryd camau penodol o fewn amser penodedig. Pan nad ydy’r Ombwdsmon wedi’i fodloni bod y corff perthnasol wedi cyflawni’r camau y mae wedi cytuno’n bendant i’w cymryd o fewn yr amser penodedig, gall gyhoeddi adroddiad arbennig dan adran 22 (6) o’r Ddeddf.

[ii] Adroddiad ar ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg, (rhif CSG233) 31 Ionawr 2018