Cafodd cwyn ei gwneud gan chwaer Mr Y (ni ddatgelir ei enw) ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i’r gŵr 55 oed yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr yn Ebrill 2015.

Aeth y chwaer, y cyfeirir ati fel Ms X, at yr Ombwdsmon ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fethu â mynd i’r afael â’i phryderon.

Aeth Mr Y i’r ysbyty yn dioddef poenau difrifol yn ei fol. Cafodd ei ryddhau ond aeth yn ôl i’r ysbyty ar ôl cael ei ganfod yn ddryslyd ac yn dioddef hypothermia.

Canfu’r Ombwdsmon y methiannau canlynol:

• Dylid bod wedi adnabod a thrin y sepsis yn gynharach.

• Ni chafodd seicosis steroid,[1] sef yr hyn a wnaeth Mr Y yn ddryslyd, ei ganfod yn brydlon, ac achosodd hyn fwy o bryder i Mr Y a’i deulu.

• Roedd arafwch cyn cydnabod bod Mr Y yn dioddef o lid y coluddyn difrifol ac roedd oedi diangen cyn ailgyfeirio at arbenigwyr priodol.

• Collwyd cyfleoedd i adnabod pa mor ddifrifol oedd cyflwr Mr Y.

• Roedd oedi cyn dechrau Mr Y ar feddyginiaeth newydd, ac nid oedd adolygiad amlddisgyblaethol digonol nac adolygiad penodol o’r pelydr-X o’i abdomen.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae fy ymchwiliad wedi tynnu sylw at resaid o fethiannau difrifol o ran y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr Y, ac yn anffodus fyddwn ni fyth yn gwybod a allai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol petai wedi cael ei drin yn gywir ac wedi cael llawdriniaeth gynt.

“Mae hyn yn anghyfiawnder trasig i Ms X a gallaf ond obeithio y bydd fy ymchwiliad yn rhyw fath o gasgliad iddi.

“Rwyf hefyd yn poeni nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi canfod y methiannau’n gynharach pan gafodd y gŵyn ei gwneud yn wreiddiol.

“Dim ond ar ôl i fy ymchwiliad ddechrau y gwnaeth Llawfeddyg Ymgynghorol adolygu’r nodiadau meddygol. Cafodd y math yma o drin cwynion yn wael ei amlygu yn fy adroddiad thematig diweddar Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Beunyddiol, ac mae ond yn ychwanegu at y trallod i’r teulu yn ystod cyfnod o alaru.”

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cytuno i holl argymhellion yr Ombwdsmon gan gynnwys talu £4,500 i Ms X am y diffygion a’r anghyfiawnder a achoswyd i Mr Y ac i Ms X.