Mae dau wasanaeth newydd wedi cael eu lansio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i wella mynediad i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw. Mae fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) newydd bellach ar gael ar wefan yr Ombwdsmon, yn cyflwyno’r gwasanaethau sydd ar gael, ac yn egluro sut all pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw gael gafael ar y gwasanaethau hynny. Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg hefyd yn ei gwneud yn bosibl i rai sy’n drwm eu clyw nad ydynt yn gallu defnyddio BSL wylio’r fideo.

Mae gwasanaeth dehongli SignVideo newydd hefyd yn awr ar gael gan alluogi defnyddwyr BSL i gysylltu â’r Ombwdsmon am ddim, gan ddefnyddio dehonglwyr byw cwbl gymwys. Gall galwadau gael eu gwneud gan ddefnyddio ffôn fideo, gliniadur, cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar ac mae hyn yn golygu bod gan ddefnyddwyr BSL well mynediad at wasanaethau’r Ombwdsmon.

Meddai Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae hygyrchedd yn un o’n gwerthoedd pwysicaf ac felly mae sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phobl sydd angen ein gwasanaethau, ond sy’n ei chael yn anodd cael gafael arnynt, yn un o’n blaenoriaethau.

“Drwy gyflwyno’r ddau wasanaeth newydd hyn rydym yn gobeithio y bydd hi’n haws i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw allu ymgysylltu â ni. Rydym eisiau parhau i sicrhau bod ein gwasanaethau o fewn cyrraedd pawb ac rydym yn croesawu adborth ar sut allwn wneud hyn.

Meddai Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru:

“Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Rydym yn gwybod bod hygyrchedd yn un o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu’r 575,500 o bobl yng Nghymru sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, ac rydym yn falch iawn o’r hyn mae’r Ombwdsmon yn ei wneud i roi sylw i hyn. Ein gobaith yw y gall cyrff cyhoeddus eraill ddilyn eu hesiampl drwy sicrhau bod eu gwasanaethau mor hygyrch â phosibl.”