Sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad sy’n ymwneud ag achos

Ein nod yw darparu gwasanaeth ymdrin â chwynion o safon uchel, sy’n edrych ar ac yn penderfynu ar gwynion yn drylwyr, ond yn gymesur, ac yn esbonio penderfyniadau yn glir. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai achwynwyr fod yn anhapus â’r penderfyniad a wnaed gennym, a gallant deimlo nad ydym wedi edrych ar eu cwyn yn briodol neu ein bod wedi gwneud camgymeriad.

Felly, mae gennym broses ar waith sydd yn eich caniatáu chi i  ofyn am adolygiad ar benderfyniad a wnaed gennym ynglŷn â’ch cwyn. Caiff y broses hon ei reoli gan y Swyddog Arwain ar Adolygiadau. Nid ydynt yn ymwneud â’r ymdriniaeth o achosion o ddydd i ddydd yn y swyddfa, a gallant weithredu fel pâr o lygaid diduedd a newydd i edrych ar eich pryderon.

 

Beth y mae’r broses hon yn ei gwmpasu

Bydd y broses adolygu yn edrych ar ein penderfyniad ar eich cwyn. Ni fydd yn ailasesu eich cwyn yn erbyn y corff cyhoeddus.

Dyma’r penderfyniadau sy’n addas i’w hadolygu o dan y broses:

  • Penderfyniad i beidio ag ymchwilio i’ch cwyn Penderfyniad i eithrio rhan o’ch cwyn o ymchwiliad
  • Penderfyniad i roi gorau i ymchwiliad a gychwynnwyd gennym
  • Ein canfyddiadau mewn cysylltiad â chanlyniad ymchwiliad sydd wedi’i gwblhau

 

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud

Ni fyddwn yn derbyn cais am adolygiad o’n penderfyniad dim ond am eich bod yn anghytuno â chanlyniad eich cwyn. Nid proses apelio yw’r broses adolygu.

Er mwyn i ni edrych ar eich cais am adolygiad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Cyflwyno’r cais i ni cyn pen 20 diwrnod gwaith o ddiwrnod ein penderfyniad, a naill ai
  • Rhoi gwybodaeth newydd ac ychwanegol nad oedd ar gael i ni pan wnaethom ein penderfyniad, neu dangos nad ydym wedi edrych yn briodol ar wybodaeth benodol a anfonoch atom yn flaenorol, a
  • Dweud wrthym ni sut y mae hyn yn effeithio ar ein penderfyniad gwreiddiol

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau adolygu ar ôl 20 diwrnod gwaith oni bai eich bod yn gallu dangos bod amgylchiadau eithriadol dros beidio â chwrdd â’r amser cau.

Dylech anfon eich cais atom yn ysgrifenedig drwy lenwi’r ffurflen sydd ar gael ar y dudalen:

Sut i wneud cais am adolygu penderfyniad rydym wedi ei wneud neu wneud sylw neu wneud cwyn am ein gwasanaeth  o dan y tab ‘Amdanom ni’.

Fel arall gallwch ebostio’r ffurflen yn ôl atom at cais.adolygiad@ombwdsmon.cymru neu drwy’r post at:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae

Pencoed CF35 5LJ

Os oes gennych ofyniad hygyrchedd wrth lenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 790 0203 a byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo.

 

Beth yr ydym yn ei wneud pan gawn eich cais

Byddwn yn cydnabod eich cais yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os na allwn dderbyn eich cais, byddwn yn dweud wrthych pam.

Os gallwn ei dderbyn, byddwn yn trefnu i’r Swyddog Arwain ar Adolygiadau, neu uwch aelod arall o staff nad ydynt wedi ymwneud o’r blaen, i edrych ar eich cais.

Byddwn yn anelu at ysgrifennu atoch gyda’r canlyniad cyn pen 20 diwrnod gwaith.

 

 

Beth yw’r canlyniadau posibl?

Gallwn ni:

  • Gytuno i edrych ar yr achos eto a’i asesu neu ymchwilio iddo’n ymhellach
  • Awgrymu camau gweithredu ychwanegol i’w cyflawni gan y darparwr gwasanaeth i ddatrys eich cwyn
  • Cadarnhau ein penderfyniad blaenorol

 

Beth sy’n digwydd wedyn?

Mae’n rhaid i ni bwysleisio bod penderfyniad unrhyw adolygiad yn derfynol ac nad oes proses apelio neu broses adolygu pellach.

Oni bai eich bod wedi hynny yn codi materion newydd yr ydym yn eu hystyried yn sylweddol, ni fyddwn yn gallu ymateb i chi ymhellach.

Ni allwch ddefnyddio’r broses hon i gwyno am benderfyniad ar adolygiad.

Gallai opsiynau cyfreithiol eraill fod ar gael i chi ac efallai y byddwch yn dymuno cael cyngor cyfreithiol.

 

Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth ymateb.